TommyEVANSEVANS - TOMMY (Tommy Lei). 19 Ionawr, 2015. Yn frawychus o sydyn, ac o 10 Cae Catrin, Pen-y-groes, yn 69 mlwydd oed. Priod annwyl Jean, a mab gofalus Mary (Mary Lei) a'r diweddar Lei Evans; llystad tyner, taid a hen-daid arbennig, a brawd hoff Tecwyn, Wally a'u teuluoedd hwythau. Angladd brynhawn Mercher, 28 Ionawr, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Pen-y-groes am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Gwneir cais arbennig i alarwyr wisgo dilledyn coch, os gwelwch yn dda. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates